Mae Teleri Evans, ffermwr ifanc o Geredigion, wedi cael ei henwi’n enillydd yng Nghystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru ar gyfer 2020.
Llwyddodd Teleri, sy’n aelod o CFfI Pontsian, i gipio’r wobr yn y gystadleuaeth frwd, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’r Ffair Aeaf Rithiol (30 Tachwedd a 1 Rhagfyr).
Mae’r gystadleuaeth yn fenter ar y cyd bob blwyddyn rhwng CFfI Cymru a Menter Moch Cymru, gyda’r nod o annog y genhedlaeth nesaf o ffermwyr moch ac i sbarduno ffermwyr i ystyried cadw moch fel opsiwn ymarferol ar gyfer arallgyfeirio.
Y chwe chystadleuydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru eleni oedd: Angharad Thomas CFfI Dyffryn Tywi, Emily Lloyd CFfI Llangwyryfon, Ethan Williams CFfI Llantrisant, Katie Hughson CFfI Howey, Teleri Vaughan CFfI Eglwyswrw, a Teleri Evans CFfI Pontsian.
Ar ddechrau mis Medi, derbyniodd pob un o’r cystadleuwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol bum porchell diddwyn Cymreig pum wythnos oed i’w magu. Cafodd y perchyll eu pwyso bob pythefnos i gofnodi eu cyfraddau twf, a chofnodwyd hefyd faint o fwyd yr oedden nhw’n ei fwyta. Cafodd y cystadleuwyr hefyd gyfle i ymuno â rhaglen o hyfforddiant pwrpasol i’w cynorthwyo gyda’u menter.
Roedd y rhaglen hyfforddi, a luniwyd ac a ddarparwyd gan Menter Moch Cymru, yn trafod hwsmonaeth a lles moch, deddfwriaeth a bwydo/maeth, gyda sesiynau hyfforddi ychwanegol a chyfarfodydd misol dros Zoom yn trafod pynciau megis marchnata. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan ffermwyr moch profiadol yn trafod yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd.
Daeth uchafbwynt y gystadleuaeth wrth i’r chwe ffermwr ifanc gystadlu’n frwd i ennill teitl y mochyn unigol gorau, y pâr o foch gorau a gwobr yr enillydd cyffredinol yn ystod y Ffair Aeaf Rithwir, gyda’r dosbarthiadau rhithwir yn cael eu beirniadu gan y bridiwr moch profiadol a llwyddiannus, Ela Roberts, o Bwllheli.
Dywedodd enillydd Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2020, Teleri Evans, ei bod hi wrth ei bodd ei bod hi wedi ennill, ac y byddai’n annog unrhyw un i gymryd rhan yn y fenter y flwyddyn nesaf.
Meddai, “Rydw i wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Menter Moch Cymru am ddarparu’r moch, ac am y gefnogaeth yr ydw i wedi’i dderbyn gan y tîm. Roeddwn i’n gallu codi’r ffôn ac roedden nhw bob amser yno i helpu. Hoffwn ddiolch hefyd i’m partner, Carwyn, am ei holl gymorth. Os mae unrhyw un yn ansicr neu’n meddwl na fydden nhw’n gallu cymryd rhan, ewch amdani. Rydw i wedi mwynhau’r profiad yn fawr.”
More Stories
Train-wrap win is just the ticket for the RNLI
Former pool to be turned into nursery facilities in Tregaron
Extra Government funding should be discussed before allocated say Ceredigion scrutiny committee